No Cover Image

Journal article 767 views 44 downloads

Dadansoddiad o berfformiad lampau electroymoleuol printiedig ar is-haen ddi-draidd

Eifion Jewell Orcid Logo, Tim Claypole, David Gethin

Gwerddon, Volume: 25, Pages: 30 - 44

Swansea University Author: Eifion Jewell Orcid Logo

Abstract

Er mwyn archwilio marchnadoedd newydd ar gyfer deunyddiau electronig printiedig, cynhaliwyd astudiaeth ymchwil i geisio deall perfformiad lampau electroymoleuol (EL) a gynhyrchwyd ar is-haen ddi-draidd. Daw’r posibilrwydd o greu’r lampau o ddeunydd inc PEDOT:PSS sy’n ffurfio uwchben electrod yn y la...

Full description

Published in: Gwerddon
ISSN: 1741-4261
Published: Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 2017
Online Access: Check full text

URI: https://cronfa.swan.ac.uk/Record/cronfa36087
Tags: Add Tag
No Tags, Be the first to tag this record!
Abstract: Er mwyn archwilio marchnadoedd newydd ar gyfer deunyddiau electronig printiedig, cynhaliwyd astudiaeth ymchwil i geisio deall perfformiad lampau electroymoleuol (EL) a gynhyrchwyd ar is-haen ddi-draidd. Daw’r posibilrwydd o greu’r lampau o ddeunydd inc PEDOT:PSS sy’n ffurfio uwchben electrod yn y lamp ac sy’n cael ei amnewid am yr ITO a ddefnyddir mewn lampau confensiynol. Gan ddefnyddio proses printio sgrin syml, cynhyrchwyd lampau ar bedair is-haen ddi-draidd (un blastig a thair bapur) a chymharwyd eu perfformiad drwy fesur lefel eu disgleirdeb. Yn gyffredinol, gwelwyd lleihad o tua 50% yn nisgleirdeb y lampau o’i gymharu â disgleirdeb lampau a gynhyrchwyd gan ddefnyddio ITO. Roedd papur ysgafnach a mwy garw yn lleihau’r disgleirdeb ymhellach. Nid oedd modd cynyddu disgleirdeb y lampau drwy ychwanegu haen ychwanegol o PEDOT:PSS gan fod hynny’n lleihau'r nodweddion tryloyw. Wrth gynyddu maint y lamp, mae effaith gwrthiant y PEDOT:PSS o’i gymharu â’r ITO yn achosi dirywiad sylweddol ym mherfformiad y lamp ac yn cyrraedd lefel o 25% yn unig o ddisgleirdeb lamp ITO o 5000 mm2. Nid y lleihad yn nargludedd a thryloywder y PEDOT:PSS o’i gymharu ag ITO yn unig sy’n gyfrifol am berfformiad cymharol wael y lampau di-draidd, ond hefyd natur dopolegol y gronynnau ffosffor, sy’n golygu bod rhai o’r gronynnau y tu hwnt i effaith y maes trydanol a grëwyd rhwng y ddau electrod.Understanding performance deficiencies in printed thick film EL lamps on paperIn order to examine new potential markets for printed electronics, a research study was undertaken to understand the performance of opaque substrate electroluminescent (EL) lamps. Opaque EL lamps are made possible by a PEDOT:PSS top electrode which replaces the ITO used in the conventional lamps. Screen-printed lamps were manufactured on four substrates (one plastic and three paper) and their performance was measured through brightness measurement. Generally, opaque substrate lamps were 50% less bright than a comparable ITO lamp. Further reductions in brightness were observed with the lighter and rougher papers. Additional layers of PEDOT:PSS increased sheet conductivity but reduced lamp brightness due to a reduction in layer transparency. As lamp size increased, the resistive nature of the PEDOT:PSS caused a significant reduction in lamp output, with a brightness of 25% of a comparable ITO lamp with an illuminated area of 5000 mm2. The relatively poor performance of the opaque lamps is derived not only from the reduced conductivity and transparency of the PEDOT:PSS compared to ITO, but is also caused by the topological nature of the phosphor particles which result in some phosphor material lying outside the electric field created between the two electrodes.
Keywords: Electroneg brintiedig, dargludydd tryloyw, is-haen bapur, lampau electroymoleuol
College: Faculty of Science and Engineering
Start Page: 30
End Page: 44