No Cover Image

E-Thesis 395 views 843 downloads

Astudiaeth o’r Wasg Gymreig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, 1914–1918 / Meilyr Powel

DOI (Published version): 10.23889/Suthesis.47983

Abstract

Dadansodda’r traethawd hwn rôl y Wasg Gymreig adeg y Rhyfel Byd Cyntaf, gan ystyried sut ac i ba raddau y gyrrwyd ystyron penodol o’r rhyfel gan ddeallusion Cymru. Drwy wneud hyn, gellir adnabod datblygiad diwylliant rhyfel neilltuol Gymreig, a’i osod yng nghyd-destun y profiad ehangach Ewropeaidd o...

Full description

Published: 2018
Institution: Swansea University
Degree level: Doctoral
Degree name: Ph.D
URI: https://cronfa.swan.ac.uk/Record/cronfa47983
Tags: Add Tag
No Tags, Be the first to tag this record!
Abstract: Dadansodda’r traethawd hwn rôl y Wasg Gymreig adeg y Rhyfel Byd Cyntaf, gan ystyried sut ac i ba raddau y gyrrwyd ystyron penodol o’r rhyfel gan ddeallusion Cymru. Drwy wneud hyn, gellir adnabod datblygiad diwylliant rhyfel neilltuol Gymreig, a’i osod yng nghyd-destun y profiad ehangach Ewropeaidd o’r Rhyfel Mawr. Tra cynhwysyd delfrydau penodol megis ‘anrhydedd’ a ‘rhyddid’ yn ieithwedd y rhyfel, thema gyffredin a fynegwyd gan ddeallusion Cymru oedd y syniad o fyd newydd yn dyfod, wrth i’r rhyfel gynrychioli rhwyg mawr gan ddisodli hen arferion cymdeithas. Yn ogystal, hanfodolwyd y gelyn i geisio esbonio digwyddiadau’r rhyfel a chyferbynnwyd gwareiddiad y gorllewin gyda Kultur tywyll yr Almaen. Tra roedd y profiadau hyn yn gynrychioliadol o’r cyfnod, ymateb pellach deallusion Cymru oedd ystyried y ffordd orau i Gymru addasu i’r byd newydd. Gwelwyd hyn mewn amryw o ffyrdd; yn grefyddol, yn ddiwylliannol, ac yn wleidyddol. Uwchlaw popeth, dros amser mynegwyd ffydd y gellid ‘dyrchafu’ Cymru i gyflwr mwy pur ac addas i’r oes newydd a oedd i ddod. Ymhlith sôn am sefydlu Cynghrair y Cenhedloedd wedi’r rhyfel, argyhoeddwyd nifer gan ryngwladoldeb a’r gred y byddai Cymru yn hawlio’i lle ar y llwyfan rhyngwladol. Tra bodolai canfyddiad fod y Rhyfel Byd Cyntaf wedi cryfhau Prydeindod, dengys y traethawd hwn fod diwylliant rhyfel neilltuol Gymreig wedi datblygu ochr yn ochr â gwladgarwch Prydeinig ym mlynyddoedd 1914–18 gan sbarduno ymwybyddiaeth bellach o genedlaetholdeb Cymreig.
Item Description: A selection of third party content is redacted or is partially redacted from this thesis.
Keywords: Cymru, Rhyfel Byd Cyntaf, Gwasg, Diwylliant, Wales, First World War, Press, Culture
College: Faculty of Humanities and Social Sciences