No Cover Image

E-Thesis 167 views 38 downloads

Drama Gwenllian: Y tu ôl i’r llen a thraethawd ar Beth yw Prif Elfennau Drama Lwyddiannus? / DANIEL WAKELY

Swansea University Author: DANIEL WAKELY

  • Wakely_Daniel_MA_Research_Thesis_Final_Redacted_Signature.pdf

    PDF | E-Thesis – open access

    Copyright: The Author, Daniel James Wakely, 2024. This thesis is released under the terms of a Creative CommonsAttribution-NonCommercial-NoDerivs 4.0 license. Third party content is excluded for use under the license terms.

    Download (535.79KB)

Abstract

Wrth ddarllen y gwaith hwn, deuir ar draws drama sy’n seiliedig ar y dywysoges Gwenllian, merch Gruffudd ap Cynan, a thraethawd ar brif elfennau drama lwyddiannus. Mae’r traethawd hefyd yn adfyfyrio ar fy mhrofiad i o gyfansoddi’r ddrama ar gyfer gofynion y radd MA.Ceir yma ddrama sy’n canolbwyntio...

Full description

Published: Swansea, Wales, UK 2024
Institution: Swansea University
Degree level: Master of Research
Degree name: MA by Research
Supervisor: Hallam, Tudur ; Parry, Gwynedd
URI: https://cronfa.swan.ac.uk/Record/cronfa66316
Tags: Add Tag
No Tags, Be the first to tag this record!
Abstract: Wrth ddarllen y gwaith hwn, deuir ar draws drama sy’n seiliedig ar y dywysoges Gwenllian, merch Gruffudd ap Cynan, a thraethawd ar brif elfennau drama lwyddiannus. Mae’r traethawd hefyd yn adfyfyrio ar fy mhrofiad i o gyfansoddi’r ddrama ar gyfer gofynion y radd MA.Ceir yma ddrama sy’n canolbwyntio mwy ar y dywysoges ei hun, ei chymeriad, yn hytrach na'r hanes. Rwy'n teimlo bod fy nrama yn cynrychioli ei hemosiynau a'i chwant yn fwy felly na dim arall, a dyna’r hyn rwy'n teimlo y dylai drama dda ei gynnig i’r gynulleidfa’n bennaf, sef, cymeriad yn ei ddigwydd. Mae fy nrama nid yn unig yn darparu rhywfaint o wybodaeth hanesyddol allweddol, ond hefyd yn amlygu’r posibiliadau eraill, yr hyn a allai fod wedi digwydd. Mae hyn yn caniatáu i'm drama fod yn addysgiadol o hyd, ond heb os, mae elfen ffuglennol yn perthyn iddi. ‘Nes na’r hanesydd at y gwir digoll / Ydyw’r dramodydd sydd yn gelwydd oll’, chwedl R. Williams Parry.Mae’r traethawd yn rhoi cipolwg ar yr hyn y mae’n rhaid i ddramodydd ei ystyried er mwyn llunio drama lwyddiannus. Mae hefyd yn arddangos yr hyn a fu’n ddylanwad arnaf fi, yr awduron yr wyf wedi dod ar eu traws, y dramâu a’r erthyglau sydd wedi cyfrannu at fy nealltwriaeth wrth i mi gyfansoddi drama ar gyfer y radd MA.Roedd darllen llyfrau, dramâu ac ystyried barn awduron ar gelfyddyd y ddrama nid yn unig o fudd i’m traethawd a’i gynnwys ond hefyd fy nrama a’m crefft gyfansoddi bersonol.Trwy’r traethawd, rwy’n ceisio adfyfyrio ar fy mhrofiad, a chymharu fy ngwaith â’r hyn y mae’r beirniaid yn cyfeirio ato, gan ddangos sut yr wyf wedi defnyddio eu cyngor yn fy nrama gan hefyd, weithiau, roi fy marn i ar ambell agwedd o grefft y ddrama.
Keywords: Drama, Gwenllian, Tywysoges, Gruffudd, Hanes, Cymru, Cymeriad, Plot, Deialog, Syniad, Lleoliad, Thema, Genre, Amser, Sain, Iaith, Cyfarwyddiadau
College: Faculty of Humanities and Social Sciences