No Cover Image

E-Thesis 516 views 523 downloads

Poblogeiddio'r Amhoblogaidd: Chwaraeon, Iaith a Hunaniaeth y Cymry yng nghyd-destun y Cyfryngau. / Alun Rhys Chivers

Swansea University Author: Alun Rhys Chivers

Abstract

Archwilir perthynas y Gymraeg a hunaniaeth y Cymry a chwaraeon, a rol cyfryngau yn y berthynas honno. Ceisir darganfod i ba raddau y gwreiddiwyd y campau yn y diwylliant Cymraeg. Ymhellach, archwilir dylanwad chwaraeon a'r cyfryngau ar ddatblygiad yr iaith Gymraeg. Ceir tair pennod ynghyd a cha...

Full description

Published: 2012
Institution: Swansea University
Degree level: Doctoral
Degree name: Ph.D
URI: https://cronfa.swan.ac.uk/Record/cronfa42619
Tags: Add Tag
No Tags, Be the first to tag this record!
Abstract: Archwilir perthynas y Gymraeg a hunaniaeth y Cymry a chwaraeon, a rol cyfryngau yn y berthynas honno. Ceisir darganfod i ba raddau y gwreiddiwyd y campau yn y diwylliant Cymraeg. Ymhellach, archwilir dylanwad chwaraeon a'r cyfryngau ar ddatblygiad yr iaith Gymraeg. Ceir tair pennod ynghyd a chasgliadau. Y mae'r bennod gyntaf yn nodi cyfraniad chwaraeon i ymdeimlad y Cymry o hunaniaeth. Archwilir y gwrthdaro rhwng byd y campau a'r gymdeithas Gymraeg draddodiadol a wreiddir yn y traddodiad Anghydffurfiol. I'r perwyl hwn, dadansoddir y sylw a roddwyd i chwaraeon yn y papurau newydd Cymraeg, yng nghyd- destun sylw Saunders Lewis ym 1926 fod y papurau newydd Cymraeg yn blaenoriaethu pynciau traddodiadol Cymraeg ar draul chwaraeon. A newidiodd agweddau'r gymdeithas Gymraeg a Chymreig tuag at fyd y campau wrth i'r ganrif fynd rhagddi? Yn yr ail bennod, dadansoddir hunangofiannau chwaraeon Cymraeg yn drylwyr, a cheisir eu dilysu o fewn y traddodiad llenyddol Cymraeg. Mesurir rol y gyfres Stori Sydyn yn y broses o annog y Cymry i ddarllen llyfrau Cymraeg. Er mwyn archwilio'r cysyniad o hunaniaeth ymhellach, cymherir hunangofiannau'r Cymro Cymraeg Ray Gravell a'r Cymro di-Gymraeg, J.P.R. Williams. Y mae'r drydedd bennod yn canolbwyntio ar ddatblygiad geirfa griced yn y Gymraeg. Yma, ymhelaethir ar waith gwerthfawr Nia Cole. Ymchwilir i'r eirfa griced a geir mewn geiriaduron er mwyn olrhain i ba raddau y treiddiodd yr eirfa i'r iaith Gymraeg ar hyd y blynyddoedd. Er mwyn mesur datblygiad termau hyd heddiw, dadansoddir darllediadau ysbeidiol S4C o'r cyfnod cynnar hyd at dymor 2011. Y mae'r datblygiad hwn yn gyfoes ac yn barhaus ac felly, nid oes ffm bendant i'r gwaith hwn. Archwilir lie criced yn hunaniaeth y Cymry drwy ganolbwyntio ar amryw gyhoeddiadau Cymraeg a Chymreig ar griced, gan ychwanegu at ymchwil helaeth Lowri Bevan i'r maes hwn. Cyflwynir casgliadau mewn pennod glo.
Keywords: Communication.;Sports Management.
College: Faculty of Humanities and Social Sciences