No Cover Image

E-Thesis 1667 views 642 downloads

Cau’r bwlch rhwng polisi ac arfer mewn perthynas â Chymraeg Ail Iaith: Astudiaeth ar sut orau y gellir cefnogi cyflwyno’r Gymraeg fel ail iaith yn llwyddiannus yng nghyd-destun ysgolion uwchradd cyfrwng Saesneg / Alexander E. Lovell

DOI (Published version): 10.23889/Suthesis.50742

Abstract

Ymddengys yn y byd addysg yng Nghymru fod consensws nad yw addysgu na dysgu Cymraeg fel ail iaith yn effeithiol yn gyffredinol (W. G. Lewis, 2010b, para. 1). Mae hyn wedi cael ei gefnogi mewn adroddiadau blynyddol diweddar gan Estyn a ganfu ostyngiad graddol yn safonau Cymraeg Ail Iaith. Mae adolygi...

Full description

Published: 2018
Institution: Swansea University
Degree level: Doctoral
Degree name: Ph.D
URI: https://cronfa.swan.ac.uk/Record/cronfa50742
Tags: Add Tag
theses 1
Abstract: Ymddengys yn y byd addysg yng Nghymru fod consensws nad yw addysgu na dysgu Cymraeg fel ail iaith yn effeithiol yn gyffredinol (W. G. Lewis, 2010b, para. 1). Mae hyn wedi cael ei gefnogi mewn adroddiadau blynyddol diweddar gan Estyn a ganfu ostyngiad graddol yn safonau Cymraeg Ail Iaith. Mae adolygiad Davies (2013, t. 1) o o Gymraeg Ail Iaith yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4, Un Iaith i Bawb, wedi atgyfnerthu’r consensws hwn, gan nodi mai Cymraeg Ail Iaith yw’r pwnc lle ceir y lefelau cyrhaeddiad isaf. Pwysleisiodd Davies (2013, t. 1) fod angen newid sylfaenol, a hynny ar frys, am ei bod yn “unfed awr ar ddeg ar Gymraeg ail iaith.” Er bod nifer o bolisïau iaith ac addysg wedi’u gweithredu gan Lywodraeth Cymru o fewn y pedwar degawd diwethaf, ac er bod achosion unigol o ddysgu Cymraeg yn rhagorol mewn ysgolion uwchradd Saesneg (Estyn, 2014b, t. 44), ymddengys nad yw darpariaeth y gyfundrefn bresennol ar gyfer addysgu Cymraeg fel ail iaith yn ddigonol o hyd i gynhyrchu siaradwyr sydd yn medru defnyddio’r Gymraeg y tu hwnt i’r dosbarth dysgu.O gofio nod uchelgeisiol Llywodraeth Cymru (2017b) i gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050, mae’n amlwg bellach nad yw darpariaeth bresennol Cymraeg Ail Iaith yn ddigonol i gynyddu nifer y bobl sy’n defnyddio’r Gymraeg. Ymddengys felly fod angen ystyried ffyrdd newydd o gefnogi cyflwyno’r Gymraeg fel ail iaith yn llwyddiannus mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, os ydym i wireddu gweledigaeth uchelgeisiol Llywodraeth Cymru. Wrth ystyried y gagendor rhwng polisi ac arfer, cyflwynir yr achos dros newid pellgyrhaeddol yng nghyfundrefn Cymraeg Ail Iaith, er mwyn cefnogi’r brif ddadl fod angen canolbwyntio o’r newydd ar ddysgu cynnwys ac iaith mewn ffordd integredig maes o law mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yng Nghymru.
Keywords: Cymraeg Ail Iaith, CLIL, addysg drochi, polisi iaith ac addysg yng Nghymru, addysg ddwyieithog, caffael ail iaith, dwyieithrwydd, asesu ail Iaith
College: Faculty of Humanities and Social Sciences