No Cover Image

Conference Paper/Proceeding/Abstract 856 views

Model newydd ar gyfer Cymraeg Ail Iaith?

Alex Lovell

Swansea University Author: Alex Lovell

Abstract

Ymddengys yn y byd addysg yng Nghymru fod consensws nad yw addysgu na dysgu Cymraeg fel ail iaith yn effeithiol yn gyffredinol (W. G. Lewis, 2010b, para. 1). Mae adolygiad Davies (2013, t. 1), Un Iaith i Bawb, wedi atgyfnerthu’r consensws hwn, gan nodi mai Cymraeg Ail Iaith yw’r pwnc lle ceir y lefe...

Full description

Published: Jurys Inn, Cardiff The future of educational research in Wales 2018
Online Access: https://www.bera.ac.uk/wp-content/uploads/2018/08/Alex-Lovell-Poster-ymchwil-BERA.pdf?noredirect=1
URI: https://cronfa.swan.ac.uk/Record/cronfa50599
Tags: Add Tag
No Tags, Be the first to tag this record!
Abstract: Ymddengys yn y byd addysg yng Nghymru fod consensws nad yw addysgu na dysgu Cymraeg fel ail iaith yn effeithiol yn gyffredinol (W. G. Lewis, 2010b, para. 1). Mae adolygiad Davies (2013, t. 1), Un Iaith i Bawb, wedi atgyfnerthu’r consensws hwn, gan nodi mai Cymraeg Ail Iaith yw’r pwnc lle ceir y lefelau cyrhaeddiad isaf. Pwysleisiodd Davies (2013, t. 1) fod angen newid sylfaenol, a hynny ar frys, am ei bod yn “unfed awr ar ddeg ar Gymraeg ail iaith.” Er bod nifer o bolisïau iaith ac addysg wedi’u gweithredu ganLywodraeth Cymru o fewn y pedwar degawd diwethaf, ac er bod achosion unigol o ddysgu Cymraeg yn rhagorol mewn ysgolion uwchradd Saesneg, ymddengys nad yw darpariaeth y gyfundrefn bresennol ar gyfer addysgu Cymraeg fel ail iaith yn ddigonol o hyd i gynhyrchu siaradwyr sydd yn medru defnyddio’r Gymraeg y tu hwnt i’r dosbarth dysgu. Ymddengys hefyd nad yw darpariaeth bresennol Cymraeg Ail Iaith yn ddigonol i gyrraedd nod Llywodraeth Cymru (2017) i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.Wrth ystyried y gagendor rhwng polisi ac arfer, cyflwynir yr achos dros newid pellgyrhaeddol yng nghyfundrefn Cymraeg Ail Iaith, er mwyn cefnogi’r ddadl fod angen canolbwyntio ar ddysgu cynnwys ac iaith mewn ffordd integredig, maes o law, mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yng Nghymru. Canolbwyntia’r ymchwil hon ar gynllun unigryw sydd ar waith mewn ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg yng Nghymru (“Ysgol X”) lle darperir darpariaeth CLIL (“Y Cwrs Carlam”) i garfan o ddisgyblion MAT yn CA3. Dadleuir hefyd fod angen ymagwedd holistaidd at ddatblygu'r Gymraeg, nid yn unig fel cyfrwng dysgu ar draws y cwricwlwm ond hefyd fel iaith fyw a ddefnyddir yn rheolaidd ar draws yr ysgol gyfan.
Item Description: This is a research poster presented at 'The future of educational research in Wales' conference on 14 November, 2018.
Keywords: Cymraeg Ail Iaith, CLIL, addysg ddwyieithog, caffael ail iaith, polisi ac arfer
College: Faculty of Humanities and Social Sciences