No Cover Image

Book 1151 views

Y Gyfraith yn ein Llên

Gwynedd Parry Orcid Logo

Swansea University Author: Gwynedd Parry Orcid Logo

Abstract

Astudiaeth banoramig a thematig sydd yn bwrw golwg ar y traddodiad llenyddol Cymraeg yn ei ymwneud â’r gyfraith a geir yma. Cyflwynir y traddodiad barddol a llenyddol o ddelweddu’r gyfraith o Daliesin Ben Beirdd hyd at ein dyddiau ni. O ganlyniad, amlygir y traddodiad llenyddol a’i gynnyrch fel ffyn...

Full description

ISBN: 9781786834270 1786834278 9781786834294
Published: Cardiff/ Caerdydd University of Wales Press/ Gwasg Prifysgol Cymru 2019
Online Access: https://www.uwp.co.uk/book/y-gyfraith-yn-ein-lln/
URI: https://cronfa.swan.ac.uk/Record/cronfa49952
Tags: Add Tag
No Tags, Be the first to tag this record!
Abstract: Astudiaeth banoramig a thematig sydd yn bwrw golwg ar y traddodiad llenyddol Cymraeg yn ei ymwneud â’r gyfraith a geir yma. Cyflwynir y traddodiad barddol a llenyddol o ddelweddu’r gyfraith o Daliesin Ben Beirdd hyd at ein dyddiau ni. O ganlyniad, amlygir y traddodiad llenyddol a’i gynnyrch fel ffynonellau sydd yn dyfnhau ein dealltwriaeth o’r gyfraith a’i dylanwad mewn cymdeithas, a chymdeithas yng Nghymru yn benodol. Gan fabwysiadu strwythur cronolegol yn bennaf, rhoddir dadansoddiad o’r ymateb llenyddol i gyfundrefn gyfreithiol yng Nghymru mewn cyfnodau penodol yn ei hanes. Ystyrir y dystiolaeth o safbwynt hanesydd cyfraith. Nid astudiaeth ieithyddol neu feirniadaeth lenyddol sydd yma, er byddai’n amhosibl hepgor elfen o feirniadaeth lenyddol wrth ddehongli’r deunydd. Ond y prif ddiddordeb yw’r cyfeiriadau cyfreithiol mewn cynnyrch llenyddol o fewn cyd-destun astudiaeth hanesyddol a chyfreithiol, a’r nod fu gwerthfawrogi llenyddiaeth fel cyfrwng i fynegi syniadau neu i ymateb i ffenomena cyfreithiol. Dyma’r tro cyntaf i astudiaeth gynhwysfawr o’r maes ymddangos, ac y mae yn torri tir newydd mewn hanesyddiaeth gyfreithiol Gymreig yn ogystal â gwneud cyfraniad pwysig i hanesyddiaeth lenyddol.
Keywords: Legal History; Literary History; Welsh Literature
College: Faculty of Humanities and Social Sciences