No Cover Image

E-Thesis 151 views 62 downloads

Cyfraniad Menywod i Ddarlledu Cyhoeddus yng Nghymru yn ystod Y Chwedegau Hirion (c. 1958–c.1974) / NON WILLIAMS

Swansea University Author: NON WILLIAMS

  • 2023_Williams_N.final.63970.pdf

    PDF | Redacted version - open access

    Copyright: The Author, Non V. Williams, 2023.

    Download (2.36MB)

DOI (Published version): 10.23889/SUthesis.63970

Abstract

Mae’r traethawd hwn yn canolbwyntio ar gyfraniad menywod i ddarlledu cyhoeddus yng Nghymru yn ystod Y Chwedegau Hirion (c.1958–c.1974), yn bennaf eu cynnyrch cyfrwng y Gymraeg. Caiff y gwaith ei drin o safbwynt ffeminyddol ac mae profiad yr awdur fel cynhyrchydd radio a theledu gyda’r BBC yn darparu...

Full description

Published: Swansea, Wales, UK 2023
Institution: Swansea University
Degree level: Doctoral
Degree name: Ph.D
Supervisor: Ffrancon, Gwenno. and Bohata, Kirsti
URI: https://cronfa.swan.ac.uk/Record/cronfa63970
Tags: Add Tag
No Tags, Be the first to tag this record!
Abstract: Mae’r traethawd hwn yn canolbwyntio ar gyfraniad menywod i ddarlledu cyhoeddus yng Nghymru yn ystod Y Chwedegau Hirion (c.1958–c.1974), yn bennaf eu cynnyrch cyfrwng y Gymraeg. Caiff y gwaith ei drin o safbwynt ffeminyddol ac mae profiad yr awdur fel cynhyrchydd radio a theledu gyda’r BBC yn darparu perspectif amgen wrth ddadansoddi cynnwys a chreadigrwydd rhaglenni. Rhydd y cyfnod o dan sylw gefnlen gymdeithasol gyfoethog i waith yr arloeswyr gyda Chymru fel llawer o wledydd gorllewinol yn profi gwrthdaro traddodiadau’r gorffennol a grymoedd rhyddid Eingl-Americanaidd. Deffrôdd pobl ifainc Cymru, fel ieuenctid ar draws Ewrop, a daeth darlledu yn ei dro yn ffocws eu hymgyrchoedd cenedlaetholgar. Ynghanol y bwrlwm, daeth pump o arloeswyr i’r amlwg, sef Ruth Price, Evelyn Williams, Nan Davies, Marion Griffith Williams a Teleri Bevan, a’u gyrfaoedd yn cwmpasu’r genres a’r darpariaethau canlynol, sy’n ffurfio penodau’r traethawd: adloniant ysgafn, darpariaeth ar gyfer plant, cylchgrawn newyddion, rhaglenni nodwedd a’r ddarpariaeth i fenywod. Caiff eu llwybrau tuag at eu cyflogaeth eu holrhain, ac wrth i oriau darlledu ehangu ar radio a theledu yn ystod y pumdegau a’r chwedegau, daeth yr angen iddynt oll arbenigo. O’r herwydd fe’u gwelwyd yn ymroi i un genre neu ddarpariaeth trwy gydol eu gyrfaoedd, gyda Bevan yn unig yn esgyn i’r lefel rheoli o fewn y BBC yng Nghymru. Ceisir dadansoddi eu gwaith, ac yn benodol eu perthynas gyda’u cynnyrch a ddarlledwyd ar y tonfeddi radio neu ar y sgrîn. Rhoddir sylw i’w cynrychiolaeth o fenywod mewn cyfnod lle bu i’r Mudiad Rhyddid Menywod yn rhyngwladol dynnu sylw at ddylanwad y cyfryngau ar y modd y cai menywod eu portreadu. Daeth i’r amlwg nad ymyrraeth ffeminyddol oedd gweledigaeth y mwyafrif ohonynt, yn hytrach eu nod oedd sefydlu gwasanaeth darlledu o’r safon uchaf yng Nghymru, a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg.
Item Description: A selection of content is redacted or is partially redacted from this thesis to protect sensitive and/or personal information.
Keywords: rhywedd, menywod, ffeminyddol, Cymru, 1960au, BBC, darlledu cyhoeddus, cynhyrchu, Teleri Bevan, Nan Davies, Ruth Price, Evelyn Williams, Marion Griffith Williams
College: Faculty of Humanities and Social Sciences