No Cover Image

E-Thesis 117 views

Delweddu Cymru a'r Rhyfel Mawr: Portreadau o Gymru a'r Cymry mewn rhaglenni dogfen am y Rhyfel Byd Cyntaf / Naomi Palmer

Swansea University Author: Naomi Palmer

  • E-Thesis under embargo until: 4th December 2028

DOI (Published version): 10.23889/SUthesis.65403

Abstract

Dadansodda'r traethawd hwn y ffordd y mae rhaglenni dogfen Cymraeg am y Rhyfel Byd Cyntaf ar gyfer S4C rhwng 1980 ac 2018 wedi portreadu Cymru a phrofiadau'r Cymry o'r cyfnod hwnnw. Un o brif gwestiynau’r ymchwil yw ystyried os oedd gan Gymru stori rhyfel unigryw ei hun, sy’n wahanol...

Full description

Published: Swansea, Wales, UK 2023
Institution: Swansea University
Degree level: Doctoral
Degree name: Ph.D
Supervisor: Matthews, G; Price, E
URI: https://cronfa.swan.ac.uk/Record/cronfa65403
Tags: Add Tag
No Tags, Be the first to tag this record!
Abstract: Dadansodda'r traethawd hwn y ffordd y mae rhaglenni dogfen Cymraeg am y Rhyfel Byd Cyntaf ar gyfer S4C rhwng 1980 ac 2018 wedi portreadu Cymru a phrofiadau'r Cymry o'r cyfnod hwnnw. Un o brif gwestiynau’r ymchwil yw ystyried os oedd gan Gymru stori rhyfel unigryw ei hun, sy’n wahanol i’r naratif Prydeinig o’r rhyfel ac ym mha ffyrdd y cyflwynir y naratif hwnnw. Mae’r straeon hyn am Gymru, am gymunedau, pobl a theuluoedd Cymraeg/Cymreig, a’u profiadau nhw o’r rhyfel.Gellid dadlau y byddai rhai o'r straeon hyn am hanes Cymru a’r Rhyfel Byd Cyntaf yn straeon coll, heb y rhaglenni dogfen. Bydd yr ymchwil yn cymryd i ystyriaeth yr agweddau diwylliannol, ieithyddol, cymdeithasol, economaidd a chrefyddol yng Nghymru, a bod gwahaniaethau yn yr agweddau hyn yn golygu profiadau gwahanoli’r Cymry.Trwy ddadansoddiad manwl o gynnwys 33 o raglenni Cymraeg ar gyfer S4C eir ati i adnabod patrymau yn y pynciau a themâu sy’n ymddangos ynddynt.Canlyniad hyn oedd ffurfio rhestr o’r hyn gellid ei ystyried yn naratif Cymreig y Rhyfel Byd Cyntaf. Dangosa'r rhestr gafodd ei ffurfio bod naratif penodol Gymreig i'r rhaglenni hyn, a mae parodrwydd S4C i barhau i fuddsoddi mewn rhaglenni newydd am y Rhyfel Byd Cyntaf yn dystiolaeth o'r naratif unigryw hwnnw sy'n bodoli ond hefyd bod straeon newydd a safbwyntiau gwahanol i'w hadrodd. Ystyria’r traethawd hefyd y newidiadau o fewn y genre dogfen hanesyddol dros y degawdau, gan ddefnyddio'r rhain i lunio strwythur y penodau gan gynnig ystyriaeth o’r modd y ffurfiwyd naratif Cymreig.
Item Description: Part of this thesis has been redacted to protect personal information.
Keywords: First World War, documentary, documentaries, television, S4C, the Great War, Welsh, Wales
College: Faculty of Humanities and Social Sciences
Funders: Swansea University Staff Bursary