No Cover Image

E-Thesis 302 views 218 downloads

Y darlun o blant yn llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol. / Eiry Miles

Swansea University Author: Eiry Miles

Abstract

Bwriad y traethawd hw-n yw cyflwyno darlun cytbwys o blentyndod yn yr Oesoedd Canol, trwy ddefnyddio tystiolaeth newydd a ganfuwyd yn llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod. Ceir astudiaeth fanwl o blant yn y Mabinogion a thestunau crefyddol megis Bucheddau'r Seintiau, yn ogystal a rhyddiaith ffeithiol...

Full description

Published: 2002
Institution: Swansea University
Degree level: Master of Philosophy
Degree name: M.Phil
URI: https://cronfa.swan.ac.uk/Record/cronfa42250
Tags: Add Tag
No Tags, Be the first to tag this record!
Abstract: Bwriad y traethawd hw-n yw cyflwyno darlun cytbwys o blentyndod yn yr Oesoedd Canol, trwy ddefnyddio tystiolaeth newydd a ganfuwyd yn llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod. Ceir astudiaeth fanwl o blant yn y Mabinogion a thestunau crefyddol megis Bucheddau'r Seintiau, yn ogystal a rhyddiaith ffeithiol megis Hanes Gruffudd fab Cynan. Fodd bynnag, canolbwyntir yn bennaf ar farddoniaeth, oherwydd ynddi y cawn y darlun mwyafcyflawn a byw o blant. Llenyddiaeth Gymraeg ganoloesol yw canolbwynt y traethawd, ond astudiaeth ryngddisgyblaethol ydyw, ac mae ei ffynonellau yn amrywiol. Trafodir themau a motiffau rhyngwladol sydd i'w gweld yn gyson yn llenyddiaeth a chwedlau yr Oesoedd Canol, megis Y Plentyn Rhyfeddol a Gwaedoliaeth a Magwraeth. Ystyrir cyd-destun hanesyddol y llenyddiaeth, statws plant yn y cyfreithiau Cymreig, a dylanwad syniadau diwinyddol ar y darlun o blant yn yr Oesoedd Canol. Y mae'n draethawd arbennig o gyfoes, oherwydd cyflwynwyd syniadau cyferbyniol ar blentyndod yn yr Oesoedd Canol gan nifer o haneswyr a chymdeithasegwyr yn ddiweddar. Dadleuodd rhai ysgolheigion, megis Philippe Aries yn ei lyfr Centuries of Childhood, mai creadigaeth fodern yw plentyndod, ac nad oedd plant yn cael eu trin yn wahanol i oedolion yn yr Oesoedd Canol. Gwrthodwyd y syniadau hynny'n chwyrn mewn gweithiau mwy diweddar, megis Children in the Middle Ages gan Nicholas Orme, ond gellid dadlau bod elfen o wirionedd yn rhai o honiadau Aries. Ar y cyfan, 'oedolion bychain' yw plant yn y llenyddiaeth gynharaf a drafodir yn y traethawd hwn, ond cyfleir anwyldeb tuag at blant yn gryfach tuag at ddiwedd yr Oesoedd Canol, a mynegir ymwybyddiaeth o blentyndod fel cyfnod pwysig ac unigryw mewn bywyd. Yn ogystal a chodi nifer o ddadleuon diddorol, gellid dadlau bod y llenyddiaeth Gymraeg a drafodir yn y traethawd hwn yn adlewyrchu newid yn agweddau pobl Gorllewin Ewrop tuag at blant yn yr Oesoedd Canol.
Keywords: Medieval history.;Medieval literature.
College: Faculty of Humanities and Social Sciences