No Cover Image

E-Thesis 244 views

Agweddau ar lên taith yn y Gymraeg mewn perthynas ag America Ladin / ELAN MUSE

Swansea University Author: ELAN MUSE

  • E-Thesis – open access under embargo until: 3rd February 2028

DOI (Published version): 10.23889/SUthesis.62590

Abstract

Cymharol brin yw’r sylw a roddwyd i lenyddiaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif, a’r unfed ganrif ar hugain sy’n lleoli llenyddiaeth Gymraeg o fewn cyd-destun trefedigaethol ac ôl-drefedigaethol. Prin hefyd yw’r sylw hyd yma a roddwyd i lên taith yn benodol. Amcan y traethawd hwn felly yw rhoi dyledus sy...

Full description

Published: Swansea 2023
Institution: Swansea University
Degree level: Doctoral
Degree name: Ph.D
Supervisor: Hallam, Tudur ; Lublin, Geraldine ; Williams, Heather
URI: https://cronfa.swan.ac.uk/Record/cronfa62590
Tags: Add Tag
No Tags, Be the first to tag this record!
Abstract: Cymharol brin yw’r sylw a roddwyd i lenyddiaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif, a’r unfed ganrif ar hugain sy’n lleoli llenyddiaeth Gymraeg o fewn cyd-destun trefedigaethol ac ôl-drefedigaethol. Prin hefyd yw’r sylw hyd yma a roddwyd i lên taith yn benodol. Amcan y traethawd hwn felly yw rhoi dyledus sylw i lên taith yn y Gymraeg gan leoli’r astudiaeth honno o fewn cyd-destun ôl-drefedigaethol, a chan ganolbwyntio ar lên taith sy’n ymwneud ag America Ladin. Mae’r gwaith yn rhan o sgwrs ehangach yn y Gymraeg am y tensiwn y mae Cymru yn ei brofi, rhwng bod yn ddioddefwyr i imperialaeth Brydeinig ac yn weithredwyr trefedigaethol ar yr un pryd. Wrth ymdrin â llên taith am Batagonia yn benodol, mae’r gwaith yn tynnu ar faes theori aneddfeydd gwladfaol. Mae’r ymchwil hwn yn cyfrannu i faes astudiaethau llên taith hefyd trwy ddadlau dros gynnwys barddoniaeth o fewn astudiaethau o lên taith; a chan dynnu ar enghreifftiau o farddoniaeth daith Gymraeg dros gyfnod o ganrif, bydd yr ymchwil hwn yn dangos sut y mae beirdd yn benthyg ac yn arbrofi â chonfensiynau rhyddiaith daith o fewn barddoniaeth daith. Y testunau dan sylw yw ‘O ddyddlyfr taith’ (1931) gan T. H. Parry-Williams; Sajama (1960) ac Illimani (1964) gan T. Ifor Rees; Dringo’r Andes (1904) gan Eluned Morgan; Crwydro Patagonia (1960) gan R. Bryn Williams; Eldorado (1999) gan Twm Morys ac Iwan Llwyd; a Glaniad (2015) gan Mererid Hopwood a Karen Owen.
Keywords: llên taith, Patagonia, De America, America Ladin, Cymraeg, Barddoniaeth, Ol-drefedigaethedd
College: Faculty of Humanities and Social Sciences