No Cover Image

E-Thesis 183 views

Nodweddu effaith signalu ghrelin-GHS-R ar awtoffagi niwronaidd / LUKE ROBERTS

Swansea University Author: LUKE ROBERTS

Full text not available from this repository: check for access using links below.

DOI (Published version): 10.23889/SUthesis.62285

Abstract

Mae echelin signalu ghrelin-GHS-R, ac awtoffagi, yn rheolyddwyr allweddol o metabolaeth systemig yn ystod prinder maeth, ac yn mynnu effeithiau niwrogenig a niwroamddiffynol. O'r herwydd, ystyrir y ddwy broses fel dargedau therapiwtig gwerthfawr ar gyfer ymestyn iechyd a brwydro yn erbyn dirywi...

Full description

Published: Swansea 2022
Institution: Swansea University
Degree level: Doctoral
Degree name: Ph.D
Supervisor: Davies, Jeffrey S. ; Morgan, Alwena H.
URI: https://cronfa.swan.ac.uk/Record/cronfa62285
Tags: Add Tag
No Tags, Be the first to tag this record!
Abstract: Mae echelin signalu ghrelin-GHS-R, ac awtoffagi, yn rheolyddwyr allweddol o metabolaeth systemig yn ystod prinder maeth, ac yn mynnu effeithiau niwrogenig a niwroamddiffynol. O'r herwydd, ystyrir y ddwy broses fel dargedau therapiwtig gwerthfawr ar gyfer ymestyn iechyd a brwydro yn erbyn dirywiad gwybyddol sy'n gysylltiedig ag oed. Fodd bynnag, nid yw’r cyswllt rhwng signalu ghrelin-GHS-R ac awtoffagi niwronaidd wedi ei diffinio’n clir. Brif nod y traethawd hir hon felly, oedd i nodweddi effaith signalu ghrelin-GHS-R ar awtoffagi niwronal gan ehangu ar y gwybodaeth prin sydd ar gael yn y llenyddiaeth. Nodweddwyd felly, effaith peptidau asyl-ghrelin (AG), ghrelin sydd heb ei asyleiddio (UAG), yn ogystal â'r gweithydd GHS-R di-peptidyl L692585, ar fflwcs awtoffagig yn llinachau celloedd niwronaidd in vitro, tra asesir effaith abladiad gennynau echelin ghrelin ar awtoffagi yn ymennydd llygod in vivo. Aseswyd hefyd effaith patrymau bwydo amserol ar awtoffagi in vivo, gan gymharu effeithiau hepatig yn ogystal a rhai niwral. Ni datgelir canfyddiadau in vitro unrhyw tystiolaeth bod echelin signalu-ghrelin GHS-R yn ysgogi awtoffagi yng nghelloedd SN4741 neu HT-22. Yn hytrach darperir dystiolaeth ystadegol fod triniaethau echelin ghrelin yn lleihau awtoffagi yn celloedd SN4741, tra welir arsylwadau tebyg gyda cyfyngiad maeth weddol ysgafn. Dengys canfyddiadau in vivo bod yna lleihad arwyddocaol ym mynegiad Beclin-1, yn DG a CA1 hipocampau llygod sydd a blocâd systemig o trawsgrifiad GHS-R (GHS-R-/-). Ni gwelir effeithiau o’r fath gyda llygod ghrelin-/- neu llygod GOAT-/-. Yn diddorol, datgelwyd nodweddiadau eilradd o awtoffagi hepatig un o canfyddiadau mwyaf addawol y traethawd ymcwhil; gyda phatrwm bwydo pori yn modiwleiddio fflwcs awtoffagi hepatig, a cholled yr effaith hyn yn llygod GHS-R-/-. Awgrymwyd canlyniadau in vivo felly bod colled GHS-R yn amharu gyda awtoffagi yn yr hipocampws ac yn effeithio ymateb awtoffagi yr afu i amodau bwydo penodol.
College: Swansea University Medical School