No Cover Image

E-Thesis 257 views 148 downloads

Archwilio pwysigrwydd y Gymraeg o fewn darpariaeth gofal iechyd wrth reoli cyflyrau cronig / Maisie Edwards

Swansea University Author: Maisie Edwards

  • Edwards_Maisie_E_MSc_Research_Thesis_Final_Redacted_Signature.pdf

    PDF | E-Thesis – open access

    Copyright: The Author, Maisie E. Edwards, 2024.

    Download (1.59MB)

Abstract

Mae gan y Gymraeg a’r Saesneg statws hafal yng Nghymru ond gan fod nifer o wasanaethau gofal iechyd sylfaenol ddim yn gymwys i Safonau’r Gymraeg mae’r argaeledd dwyieithog yn anghyson. Crybwylla astudiaethau blaenorol bod defnydd o’r iaith sydd fwyaf addas i’r claf yn rhan hanfodol o gyfathrebiad a...

Full description

Published: Swansea, Wales, UK 2024
Institution: Swansea University
Degree level: Master of Research
Degree name: MSc by Research
Supervisor: Morgan, Alwena ; Davies, Jeffrey
URI: https://cronfa.swan.ac.uk/Record/cronfa66754
Abstract: Mae gan y Gymraeg a’r Saesneg statws hafal yng Nghymru ond gan fod nifer o wasanaethau gofal iechyd sylfaenol ddim yn gymwys i Safonau’r Gymraeg mae’r argaeledd dwyieithog yn anghyson. Crybwylla astudiaethau blaenorol bod defnydd o’r iaith sydd fwyaf addas i’r claf yn rhan hanfodol o gyfathrebiad a mynegiant effeithiol. Gall methu â defnyddio’r iaith sy’n briodol i’r claf beryglu eu canlyniadau iechyd megis oediad mewn triniaeth a cham-ddiagnosis. Y prif nod oedd archwilio canfyddiadau cleifion â chyflwr/au cronig trwy ddefnydd holiaduron a chyfweliadau. Casglwyd canfyddiadau darparwyr gofal iechyd hefyd er mwyn asesu eu safbwynt o ddefnydd y Gymraeg o fewn eu maes. Defnyddiwyd cyfuniad o ddulliau dadansoddiad meintiol ac ansoddol er mwyn ffurfio casgliadau ynghylch effaith y Gymraeg ar agweddau o driniaethau cleifion a’u darpariaeth gan ofalwyr iechyd. Mae 75% o’r sampl o ddefnyddwyr y gwasanaethau yn cytuno bod derbyn gofal iechyd trwy eu hiaith ddewisol yn bwysig. Fodd bynnag, 37% o ddarparwyr gofal iechyd sy’n cytuno bod y Gymraeg yn bwysig wrth weithio, tra roedd y ffigwr hwn yn 87% ymysg y siaradwyr Cymraeg yn unig. Ehangodd cyfranwyr yr holiaduron at resymau dros eu barnau a chyfeiriodd nifer o ddefnyddwyr y gwasanaethau at rôl y Gymraeg wrth hyrwyddo datblygiad perthynas a galluogi cyfathrebiad naturiol. Gwelir cyfran fawr o ofalwyr iechyd sy’n siarad Cymraeg yn cytuno gyda hyn ac yn pwysleisio buddion darpariaeth gwasanaethau trwy’r Gymraeg i’w cleifion neu eu harwyddocâd i unigolion o fewn y gymuned sydd wedi colli gafael yn y Saesneg. Er hynny, ystyria nifer o ofalwyr iechyd ar draws Gymru weithredu Safonau’r Gymraeg fel baich, yn enwedig os nad ydynt yn gweld buddion darpariaeth y Gymraeg i’w siaradwyr. Gwaith ymchwil cyfoes yw hwn sy’n adlewyrchu canfyddiadau cleifion a darparwyr o wasanaethau presennol sy’n cyfrannu at gryfhau’r sylfaen dystiolaeth a llywio integreiddiad y Gymraeg i’r gwasanaethau.
Keywords: Gofal iechyd, Y Gymraeg, Dwyieithrwydd, Cynnig Rhagweithiol
College: Faculty of Medicine, Health and Life Sciences
Funders: James Pantyfedwen Foundation Grant